18.06.2026

Ymarferiad Hyfforddi Digwyddiadau Mawr wedi’i Gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cynhaliwyd ymarferiad hyfforddi aml-asiantaethol mawr ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth, 16 Mehefin, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Fforwm Gwydnwch Lleol a myfyrwyr y Brifysgol yn cymryd rhan.

Gan Steffan John



Cynhaliwyd ymarferiad hyfforddi aml-asiantaethol mawr ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth, 16 Mehefin, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Fforwm Gwydnwch Lleol a myfyrwyr y Brifysgol yn cymryd rhan.

Roedd yr ymarferiad hyfforddi yn efelychu digwyddiad dan bwysau uchel yn ystod protest, lle gyrrwyd tractor i mewn i brotestwyr a cherbydau cyfagos ar ôl i'r gyrrwr ddioddef anhwylder feddygol.  Creodd y senario nifer o ddioddefwyr gydag amrywiaeth o anafiadau, gan gynnwys pobl wedi'u dal y tu mewn i'w cerbyd, gan greu amgylchedd realistig a heriol i griwiau weithio ynddo.  Helpodd colur effeithiau arbennig ac anafiadau prosthetig a wisgwyd gan actorion i greu amgylchedd hyfforddi hynod realistig a throchol.

Yn cynrychioli GTACGC roedd Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn ac Ar Alwad o Orsaf Dân Aberystwyth, gyda chefnogaeth Gweithredwyr Ystafelloedd Rheoli yn y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Rhoddodd yr ymarferiad gyfle i Ddiffoddwyr Tân ddatblygu eu sgiliau mewn brysbennu, gofal trawma, gweithdrefnau gwrthdrawiad ar y ffordd a thynnu’n rhydd o anafiadau’n ddiogel.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.









Roedd cymhlethdod y digwyddiad efelychu’n gofyn am gydweithrediad agos rhwng criwiau'r Gwasanaeth Tân ac Achub, swyddogion ac asiantaethau partner, gan brofi eu gallu i gydlynu'n effeithiol, rheoli safle deinamig a datrys y sefyllfa’n ddiogel mor effeithlon â phosibl.

Daeth yr ymarferiad i ben gyda sesiwn adrodd yn ôl, gan ganiatáu i bob asiantaeth adolygu eu hymateb, rhannu pwyntiau dysgu a nodi cyfleoedd i gryfhau cydlynu aml-asiantaethol ymhellach.  Mae senarios hyfforddi o'r raddfa hon yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau brys yn gwbl barod ar gyfer digwyddiadau cymhleth, gan helpu i fireinio cyfathrebu, gwneud penderfyniadau ac effeithiolrwydd gweithredol o dan bwysau.

Mae GTACGC yn estyn ei ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am gynnal a chydlynu'r digwyddiad, yn ogystal ag i asiantaethau partner a'r myfyrwyr gwirfoddol y gwnaeth eu cyfraniad helpu i wneud y senario mor realistig ac mor defnyddiol â phosibl.  Trwy barhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, mae'r Gwasanaeth yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella diogelwch y cyhoedd ac i sicrhau bod cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cael eu diogelu.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol