26.10.2026

Un o Ddiffoddwr Tân yr Ystafell Reoli yn Ennill yr Aur ym Mhencampwriaethau Jiu-Jitsu Cymru

Mae Chance Morgan, un o Ddiffoddwyr Tân Ystafell Reoli ar y Cyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, bellach yn un o Bencampwyr Cymru.

Gan Steffan John



Mae un o Ddiffoddwyr Tân Ystafell Reoli ar y Cyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn un o Bencampwyr Cymru.

Yn ddiweddar, daeth y diffoddwr tân Chance Morgan i’r brig yn adran pwysau ysgafn Meistri’r Belt Brown 2 (76kg) cystadleuaeth All-Stars Brazilian Jiu-Jitsu (BJJ) Cymru, a gynhaliwyd yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd.

Daw’r fuddugoliaeth yn sgil newid mawr ym mywyd Chance, ar ôl cyfnod heriol a’i rhwystrodd rhag hyfforddi a chystadlu.  Roedd Chance wedi ail-afael yn y gamp yn gynharach eleni, gan ennill aur yn y gystadleuaeth Pro Sport Grappling yng Nghasnewydd ym mis Chwefror, ond ar ôl cael anaf sylweddol i’r ligament croesffurf blaen (ACL) bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w gynlluniau a threulio misoedd yn adsefydlu.





Wrth siarad am ei fuddugoliaeth, dywedodd Chance:

"Rwy'n awyddus i barhau â’r momentwm hwn dros y misoedd nesaf, gyda'r nod yn y pen draw o ennill teitl Agored Prydain unwaith eto ym mis Mai 2027."



Arferai Chance fod yn droedfilwr gyda Bataliwn 1af Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, ac mae’n defnyddio ei blatfform yn y gamp i wella ymwybyddiaeth o adferiad yn sgil Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD). 



Dywedodd Chance:

"Mae gwella ymwybyddiaeth o adferiad PTSD yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, yn dilyn fy nheithiau ar ddyletswydd gyda'r Bataliwn 1af.  Rwyf hefyd yn falch o gynrychioli fy nghampfa, Nails Fight Centre, fy noddwr, Violent Therapy, yn ogystal â GTACGC.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gystadlu gyda’r Jiu-Jitsu, ac i ychwanegu ychydig mwy o fedalau ar hyd y ffordd gyda lwc!"



Mae pawb yn GTACGC yn llongyfarch Chance ar ei gyflawniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo gyda’i nod o gyrraedd y brig unwaith eto ym myd Jiu-Jitsu Brasil Prydain.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf