05.08.2026

Diffoddwr Tân yn Hawlio Teitl Pencampwriaeth Beicio Cymru

Mae Diffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei goroni'n Bencampwr Agored Hŷn ym Mhencampwriaeth Treialon Amser Cymru 2026.

Gan Steffan John



Mae Diffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cael ei goroni'n Bencampwr Agored Hŷn ym Mhencampwriaeth Treialon Amser Cymru 2026.

Sicrhaodd Siôn Jones, Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân y Tymbl, y teitl wrth gynrychioli Tîm Hyfforddi Ride Revolution, gan gwblhau'r cwrs 10 milltir mewn amser trawiadol o 20 munud a 12 eiliad.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth ar gwrs 10 milltir ger Llanfaches yng Nghasnewydd, lle roedd y cystadleuwyr yn wynebu tir cyflym, tonnog a brofodd eu dygnwch, eu cyflymder a'u gallu technegol.




O Blentyn Brwdfrydig i Feiciwr Cystadleuol

Mae beicio wedi bod yn rhan o fywyd Siôn, sy'n ugain oed, ers ei blentyndod.  Cymerodd ran yn ei gystadlaethau cyntaf pan oedd ond yn bedair oed, a dyna oedd dechrau angerdd gydol oes am y gamp. 

Roedd gweld ei glwb beicio lleol yn hyfforddi yn drobwynt ac ar ôl trafodaeth gyda nhw, ymunodd â'r clwb ychydig wythnosau yn ddiweddarach.  Wedi'i ysbrydoli gan amgylchedd y tîm ac yn awyddus i wella, aeth Siôn ymlaen i feicio’n gystadleuol, gan ddechrau rasio o ddifrif yn 16 oed.





Gwasanaethu'r Gymuned y Tu Hwnt i'r Llinell Derfyn

Dechreuodd Siôn wasanaethu ei gymuned leol fel Diffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân y Tymbl, GTACGC ym mis Hydref 2025.

Ar ôl i'w dad weld diwrnod agored recriwtio yn yr orsaf yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, aeth Siôn i’r digwyddiad, roedd wrth ei fodd â'r profiad a gwnaeth gais yn fuan wedyn.  Ers hynny, mae wedi cwblhau ei hyfforddiant cychwynnol, gan ennill y sgiliau a'r wybodaeth graidd sydd eu hangen ar gyfer y rôl, y mae'n parhau i'w datblygu trwy hyfforddiant parhaus a digwyddiadau yr ochr weithredol.



Wrth siarad am y rheswm y penderfynodd ymgeisio, dywedodd Siôn fod y rôl yn apelio ato oherwydd byddai'n caniatáu iddo ddatblygu sgiliau gwerthfawr, ennill profiadau newydd a gwasanaethu ei gymuned leol tra'n dal i fwynhau ei ymrwymiadau chwaraeon.  Mae bellach hefyd yn ystyried gyrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn yn y dyfodol.

Wrth siarad am ei rôl fel Diffoddwr Tân, dywedodd Siôn:

"Rwy'n mwynhau'r profiad ac yn dysgu sgiliau newydd bob dydd.

Nid oes unrhyw ddau ddigwyddiad byth yr un fath a'r rhannau gorau am y rôl yw'r bobl rydw i'n cael gweithio gyda nhw a bod yn rhan o dîm agos.

I unrhyw un sy'n ystyried a ddylen nhw wneud cais, byddwn bendant yn eu hannog i fynd amdani.  Does gennych chi ddim byd i'w golli a byddwch chi'n ennill cymaint ohono."



Mae llwyddiant Siôn ar y beic yn adlewyrchu'r ymroddiad a'r penderfyniad y mae'n ei roi i'w rôl yng Ngorsaf Dân y Tymbl, lle mae'n parhau i ddatblygu ei sgiliau diffodd tân wrth gystadlu ar y lefel uchaf o feicio yng Nghymru. 




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.



Erthygl Flaenorol