14.10.2026

Diffoddwyr Tân yn Cymryd Rhan Mewn Ymarfer Hyfforddi’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys

Yn ddiweddar, ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â chydweithwyr o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys ar gyfer ymarfer hyfforddi aml-asiantaethol a gynlluniwyd er mwyn gwella parodrwydd gweithredol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) â chydweithwyr o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) ar gyfer ymarfer hyfforddi aml-asiantaethol a gynlluniwyd er mwyn gwella parodrwydd gweithredol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth.




Roedd yr ymarfer yn cynnwys ystod o senarios realistig, a roddodd gyfleoedd gwerthfawr i griwiau GTACGC weithio ochr yn ochr â phersonél EMRTS mewn amgylchedd hyfforddi deinamig.  Galluogodd y sesiwn i Ddiffoddwyr Tân, gan gynnwys y rhai sydd dan hyfforddiant, i ddatblygu eu galluoedd diheintio a deunyddiau peryglus ymhellach, tra'n cael gwell dealltwriaeth o'r gweithdrefnau clinigol arbenigol, y prosesau gwneud penderfyniadau a'r sgiliau a ddefnyddir gan EMRTS mewn digwyddiadau sy'n ymwneud â thrawma.





Daeth y diwrnod i ben gyda senario aml-asiantaeth cymhleth, a roddodd gyfle i'r holl sefydliadau a oedd yn cymryd rhan roi trefniadau gweithio cydweithredol a Chyd-egwyddorion Rhyngweithredu Gwasanaethau Brys (JESIP) ar waith.  Mae cydweithio mewn amodau realistig wedi helpu i atgyfnerthu pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, ymwybyddiaeth sefyllfaol a gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig yn ystod digwyddiadau brys.

Mae ymarferion hyfforddi fel y rhain hanfodol o ran cryfhau perthnasoedd rhyngasiantaethol, gwella dealltwriaeth weithredol a sicrhau bod ymatebwyr brys yn barod i weithio gyda'i gilydd yn effeithiol pan fydd cymunedau eu hangen fwyaf.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol