Dywedodd Pennaeth Rhanbarth y Gogledd, GTACGC, y Rheolwr Grŵp Phil Morris:
"Mae ymarferion fel hyn yn hanfodol i'n helpu i gynnal gweithlu diogel, cymwys ac effeithiol. Maen nhw’n rhoi cyfle i ni hyfforddi mewn amodau realistig, cryfhau ein gallu i gydweithio ag asiantaethau partner a sicrhau ein bod yn gwbl barod i ymateb pan fydd digwyddiadau go iawn yn digwydd.
Trwy ail-greu pwysau a natur anrhagweladwy argyfyngau gwirioneddol, rydyn ni’n gallu profi ein penderfyniadau, mireinio ein technegau gweithredol a nodi unrhyw feysydd lle gallwn wella. Mae'r senarios hyn hefyd yn caniatáu i'n criwiau fagu hyder yn eu hoffer, eu hyfforddiant ac, yn bwysicaf oll, yn ei gilydd.
Mae ymarferion ar y cyd fel hyn yn ein helpu i ddeall rolau ein gilydd, symleiddio cyfathrebu a sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym, yn effeithlon ac yn unedig pan fydd y cyhoedd ein hangen fwyaf."
Dywedodd y Rhingyll Andrew Buckley, o Orsaf Heddlu'r Drenewydd:
"Roedd yr arddangosiad gwrthdrawiad ar y ffordd hwn yn gyfle gwych i ni weithio gyda'n partneriaid golau glas, GTACGC a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar bob mater yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd.
Er ein bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid golau glas yn dilyn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, roedd y digwyddiad hwn yn caniatáu i ni ddefnyddio'r un gwaith tîm i wneud popeth y gallwn i atal y digwyddiadau hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Diolch i'n cydweithwyr yn GTACGC am ein croesawu yng Ngorsaf Dân y Drenewydd am y fenter wych hon ar y cyd a diolch i'r holl fynychwyr a stopiodd i siarad â ni."