28.05.2026

Digwyddiad Cysylltu Diogelwch Tân mewn Cartrefi Gofal

Ddydd Mercher, 13 Mai, fe wnaeth tîm Diogelwch Tân Busnes, Rhanbarth y De, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) gynnal digwyddiad Diogelwch Tân mewn Cartrefi Gofal yng Ngwesty a Spa Towers, Abertawe.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 13 Mai, fe wnaeth tîm Diogelwch Tân Busnes, Rhanbarth y De, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) gynnal digwyddiad Diogelwch Tân mewn Cartrefi Gofal yng Ngwesty a Spa Towers, Abertawe.

Nod y digwyddiad oedd cryfhau’r cydweithrediad rhyngom â’r sector cartrefi gofal ar draws Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Bu’n gyfle gwerthfawr i ailgysylltu, i gryfhau perthnasoedd, ac i gael trafodaeth agored ynghylch beth sy'n gweithio'n dda a pha heriau sy’n ein hwynebu.

Dyma'r cyntaf o lawer o sesiynau Cysylltu sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Rhanbarth y De, a bydd yn ein helpu i adeiladu dull cydgysylltiedig o weithio gyda'n gilydd ac o rannu gwybodaeth.

Yn ystod y sesiwn, cafwyd cyflwyniadau gan gydweithwyr ar nifer o bynciau, gan gynnwys y broses archwilio diogelwch tân a'r hyn y gall darparwyr ei ddisgwyl, ymwybyddiaeth o ddiogelu oedolion agored i niwed a phwysigrwydd cyfathrebu / gweithio mewn partneriaeth barhaus, gan orffen gyda chyfle i ofyn cwestiynau technegol.

Dyma ddiolch yn arbennig i'r holl siaradwyr ac i Westy a Spa Towers am ddarparu lleoliad ardderchog. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr, a chafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a ddaeth.

Rydym yn canolbwyntio ar y pethau syml – cynnal momentwm a throi trafodaethau yn weithredoedd ystyrlon.

Hoffai Neil Stephens, Rheolwr Diogelwch Tân SMA a thîm Diogelwch Tân Busnes, Rhanbarth y De ddiolch i bawb a ddaeth.



Erthygl Flaenorol