13.05.2026

Digwyddiad: Tân Cerbyd ar hyd yr A48

Ddydd Mawrth, Mai 12fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Tymbl a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr A48 tua'r gorllewin, ger Foelgastell.

Gan Steffan John



Am 7.17yb, ddydd Mawrth, Mai 12fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Tymbl a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr A48 tua'r gorllewin, ger Foelgastell.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cerbyd modur preifat.  Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r cerbyd.  Dinistriwyd y cerbyd yn llwyr gan y tân.

Gadawodd y criwiau am 8.11yb.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol