Wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni, mae cymunedau'n cael eu gwahodd i helpu i siapio dyfodol y Gwasanaeth drwy gymryd rhan yn ei arolwg Llunio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gyda’n Gilydd.
Ers lansio'r arolwg, mae mwy na 600 o bobl, gan gynnwys aelodau staff, trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner, eisoes wedi rhannu eu barn.
Mae'r arolwg yn helpu i gyfrannu at ddatblygu ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 a fydd yn arwain y ffordd y mae'r Gwasanaeth yn ymateb i risgiau'r dyfodol, yn cefnogi cymunedau ac yn dyrannu adnoddau dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn annog pawb i gymryd ychydig funudau i leisio eu barn a helpu i sicrhau bod ein blaenoriaethau'n parhau i adlewyrchu anghenion y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Ers ei sefydlu ym 1996, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi tyfu i ddiogelu bron i ddwy ran o dair o Gymru, gan wasanaethu mwy na 912,000 o bobl ar draws 4,500 milltir sgwâr drwy rwydwaith o 58 o orsafoedd tân. Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o wasanaeth, rydym yn myfyrio ar ba mor bell rydym wedi dod wrth edrych ymlaen at heriau a chyfleoedd y dyfodol.
Mae canfyddiadau'r arolwg hyd yma yn dangos bod ymatebwyr yn rhoi'r pwys mwyaf ar ymateb i argyfyngau, gweithgareddau atal a diogelu cymunedau sy'n agored i niwed. Mae'r adborth hefyd wedi tynnu sylw at heriau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys newid hinsawdd, llifogydd, risg tanau gwyllt, recriwtio a chadw diffoddwyr tân, lles staff, tanau cerbydau trydan a digwyddiadau sy'n ymwneud â batris lithiwm.
Mae'r adborth hefyd wedi dangos lefel uchel o hyder yn y Gwasanaeth, gyda 96% o ymatebwyr yn nodi eu bod naill ai'n hyderus iawn neu'n weddol hyderus yn y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Yn ogystal, mae 82% o ymatebwyr yn credu bod y Gwasanaeth yn cynnig gwerth da am arian, gan atgyfnerthu'r gefnogaeth gref sydd i'n gwaith.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae adborth wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r heriau, y risgiau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Gwasanaeth a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o wasanaeth a dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol drwy CRhRC 2040, rydym am wybod a ydym ar y trywydd cywir.
Rydym yn gofyn i bawb gymryd ychydig funudau i rannu eu barn. Bydd eich adborth yn ein helpu i asesu'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma, deall a yw ein blaenoriaethau'n parhau i adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i bobl, a sicrhau bod cyfeiriad y Gwasanaeth yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ein cymunedau.
I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i'n gwefan: Llunio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Gyda'n Gilydd
Mae pob ymateb yn ddienw. Mae pob ymateb yn ddienw. Mae modd gofyn am iaith neu fformat gwahanol.
Diolch am eich cefnogaeth a'ch cyfranogiad. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i lunio pennod nesaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.