30.09.2026

Gosod Pecynnau Rheoli Gwaedu Critigol mewn Gorsafoedd Tân

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o gyhoeddi bod 33 o Becynnau Rheoli Gwaedu Critigol wedi'u gosod mewn cypyrddau Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus yng Ngorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn falch o gyhoeddi bod 33 o Becynnau Rheoli Gwaedu Critigol (CBC) wedi'u gosod mewn cypyrddau Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus (PAD) yng Ngorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.




O'r chwith i'r dde: Y Rheolwr Criw Steve Richards, Swyddog Ymateb Meddygol Steven Jarvis, Y Prif Swyddog Tân Craig Flannery a Melanie James.

Mae cyflwyno'r pecynnau hyn yn nodi cam pwysig arall wrth gryfhau gallu'r Gwasanaeth i achub bywydau a gwella mynediad at offer brys o fewn cymunedau.

Wedi'u cynllunio i helpu i reoli gwaedu difrifol, gall y pecynnau CBC fod yn hanfodol mewn argyfyngau sy'n deillio o wrthdrawiadau ffyrdd, damweiniau difrifol, anafiadau trywanu, troseddau cyllyll a digwyddiadau trawmatig eraill.  Drwy ddarparu mynediad uniongyrchol at offer arbenigol ar gyfer rheoli gwaedu, gall y pecynnau helpu i ddarparu cymorth cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae'r broses o gyflwyno'r pecynnau yn rhan o fenter dan arweiniad Heartbeat UK mewn partneriaeth â The Daniel Baird Foundation, mae'r ddau sefydliad yn ymroddedig i wella mynediad y cyhoedd at ymyriadau sy'n achub bywydau.  I nodi'r achlysur, croesawodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery, a'r Swyddog Ymateb Meddygol, Steven Jarvis, Melanie James, Sylfaenydd Heartbeat UK a chyn Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, a Steve Richards, Rheolwr Criw a Llysgennad, i bencadlys y Gwasanaeth yng Nghaerfyrddin.






Mae GTACGC wedi cefnogi'r fenter elusennol hon ers ei sefydlu ac mae'n falch o barhau i weithio ochr yn ochr â Heartbeat Trust UK i ehangu argaeledd offer brys hanfodol ledled y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Fel y Gwasanaeth Tân ac Achub cyntaf yng Nghymru i osod y pecynnau CBC ym mhob cwpwrdd PAD sy'n hygyrch o'r tu allan yn ei Orsafoedd Tân, mae GTACGC yn arwain y ffordd wrth wneud adnoddau sy'n achub bywydau yn haws i'r cyhoedd eu cael.  Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Gwasanaeth i atal, paratoi a diogelwch cymunedol.

Efallai mai'r ffordd orau o ddangos pwysigrwydd y pecynnau hyn yw trwy enghraifft y Rheolwr Criw Steve Richards, o Orsaf Dân Llanelli, a ddefnyddiodd y pecyn CBC i helpu i achub bywyd yn ystod argyfwng.  Mae ei gamau gweithredu yn tynnu sylw nid yn unig at effeithiolrwydd yr offer, ond hefyd at y proffesiynoldeb, yr ymroddiad a'r gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n sail i waith staff GTACGC bob dydd.

Erthygl Flaenorol