18.05.2026

Her Diffoddwyr Tân Cymru 2026

Ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, 2026, bydd Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r DU yn ymgynnull yn Abertawe i gystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru, ras ranbarthol Her Diffoddwyr Tân Prydain.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, 2026, bydd Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r DU yn ymgynnull yn Abertawe i gystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru, ras ranbarthol Her Diffoddwyr Tân Prydain.

Yn ddigwyddiad a gynhelir yn flynyddol, mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn dod â Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a thramor ynghyd i ymgymryd â chyfres o brofion corfforol a meddyliol heriol - pob un wedi'i gwblhau mewn cit tân llawn.  Mae'r digwyddiad yn dilyn llwyddiant her y llynedd, a oedd â chynrychiolaeth o 23 o Wasanaethau Tân ac Achub.

Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio er mwyn arddangos y sgil, y cryfder a’r gwydnwch eithriadol y mae Diffoddwyr Tân yn eu dangos bob dydd.  Yn fwy na chystadleuaeth, mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn ddathliad o gymuned.  Mae'n gyfle i Ddiffoddwyr Tân gefnogi ei gilydd, tynnu sylw at eu proffesiynoldeb a chydnabod eu hymroddiad parhaus i gadw pobl yn ddiogel.

Mae'r her yn cynnwys wyth treial, wedi'u cynllunio er mwyn profi ffitrwydd a phenderfyniad hyd yn oed y Diffoddwr Tân mwyaf profiadol.  Rhaid i gyfranogwyr redeg 50 metr, cario pibell 50 metr, cario offer gwrthdrawiad ar y ffordd, llusgo dymi ffug a mwy.




Her Diffoddwyr Tân Cymru 2025



Bydd y digwyddiad yn cynnwys aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), a fydd yn rhannu gwybodaeth a chanllawiau diogelwch pwysig.  Bydd ystod eang o bartneriaid yn ymuno â nhw, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Go Safe, y Groes Goch Brydeinig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cŵn Tywys Cymru, Cyngor Dinas Abertawe, yr RNLI a mwy.  Bydd y diwrnod hefyd yn tynnu sylw at nifer o lwybrau recriwtio cyffrous o fewn y Gwasanaeth, gan gynnwys swyddi gwag Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Bydd y rhai sy'n mynychu yn gallu dysgu mwy am sut mae criwiau Ar Alwad yn gweithredu a'r hyfforddiant a datblygu a roddir.

Ynghyd â sicrhau diwrnod cyffrous i gyfranogwyr a gwylwyr, mae'r her hefyd yn codi arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n rhoi cefnogaeth arbenigol, gydol oes i aelodau presennol ac wedi ymddeol o gymuned y Gwasanaethau Tân ac Achub.

Bydd Her Diffoddwyr Tân Cymru 2026 yn digwydd yn Arena Swansea Building Society, gan ddechrau am 9yb.  Noder, er bod cofrestru ar gyfer cystadleuwyr bellach wedi cau, mae croeso cynnes i wylwyr.

 

Lleoliad y digwyddiad: Arena Swansea Building Society, Heol Ystumllwynarth, Bae Copr Bay, Abertawe, SA1 3BX



Gwyliwch sut mae masgot y Gwasanaeth, Sbarc, wedi bod yn paratoi ar gyfer yr her ac archwilio lleoliad y digwyddiad!

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.

Erthygl Flaenorol