13.05.2026

Diffoddwyr Tân yn Cydnabod Cefnogaeth Gymunedol Hanfodol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dibynnu ar gefnogaeth a haelioni parhaus cymunedau lleol.  Mae'r cyfraniad hwnnw wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar o fewn Rhanbarth y Gogledd y Gwasanaeth, sy’n cwmpasu Powys a Cheredigion.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dibynnu ar gefnogaeth a haelioni parhaus cymunedau lleol.  Mae'r cyfraniad hwnnw wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar o fewn Rhanbarth y Gogledd y Gwasanaeth, sy’n cwmpasu Powys a Cheredigion.

Mae dau barc carafanau yn y Trallwng - Parc Carafanau Neuadd Bridge a Pharc Carafanau Severn - wedi derbyn tystysgrifau cydnabyddiaeth GTACGC yn ddiweddar i werthfawrogi eu haelioni a'u cymorth hirdymor gydag ymarferion hyfforddi.

Ym Mharc Carafanau Neuadd Bridge yn Llanfair Caereinion, mae Roger a’i deulu wedi cefnogi GTACGC a’r gymuned leol drwy ganiatáu i griwiau ddefnyddio’r safle ar gyfer hyfforddiant ymatebwyr cyntaf dŵr.  Yn ogystal â rhoi mynediad i ran o’r Afon Banwy, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r parc, mae Roger hefyd wedi agor cyfleusterau lles y safle yn ystod sesiynau hyfforddi gan sicrhau bod criwiau’n gyfforddus a bod ymarferion yn rhedeg yn esmwyth.

Yn y cyfamser, mae Rachel a’i theulu ym Mharc Carafanau Severn yn Ffordun wedi croesawu criwiau’n rheolaidd i’w safle, gan roi mynediad at ran o’r Afon Hafren ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hyfforddi ar y dŵr.

Mae perthnasoedd cryf â chymunedau a busnesau lleol yn hanfodol i waith GTACGC.  Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cyflogwyr yn hwyluso Diffoddwyr Tân Ar Alwad i ymateb i argyfyngau trwy ganiatáu iddynt adael eu prif weithle ar fyr rybudd pan mae yna argyfwng.

Mae GTACGC am ddiolch i bawb sy’n parhau i gefnogi ei waith.  Mae’r enghreifftiau hyn yn tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae sefydliadau lleol yn eu gwneud at barodrwydd gweithredol GTACGC.  Mae’r Gwasanaeth yn parhau i ymrwymo i gryfhau’r partneriaethau hyn, gan gydnabod bod cefnogaeth gymunedol yn hanfodol i ddarparu ymateb brys effeithiol a gwydn.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol