08.10.2026

Seremoni Cwblhau Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood

Ddydd Llun, Medi 28ain, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Seremoni Cwblhau i nodi bod pump o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad newydd wedi cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol.

Gan Steffan John



Ddydd Llun, Medi 28ain, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Cwblhau i nodi bod pump o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad newydd wedi cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Hyfforddiant y Gwasanaeth yn Earlswood ddydd Llun, Medi 28ain, roedd yn nodi uchafbwynt wythnosau o hyfforddiant dwys ac yn arddangos y sgiliau y mae'r recriwtiaid wedi'u datblygu wrth baratoi i wasanaethu eu cymunedau lleol.






Daeth teulu, ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd i wylio cyfres o arddangosiadau yn yr iard ymarfer, gan gynnig cipolwg ar yr hyfforddiant heriol a wnaed gan y Diffoddwyr Tân newydd.  Drwy gydol y cwrs, cafodd y recriwtiaid brofiad mewn ystod eang o sgiliau gweithredol, gan gynnwys technegau sylfaenol diffodd tân, defnyddio offer, gofal trawma a chleifion, ac ymateb i wrthdrawiadau traffig ffyrdd.

Mae’r Seremoni Cwblhau yn garreg filltir bwysig i bob Diffoddwr Tân wrth iddynt baratoi i ymuno â'u Gorsafoedd Tân priodol ar draws ardal y Gwasanaeth.  Fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad, byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu eu cymunedau, ymateb i argyfyngau a chefnogi mentrau atal a diogelwch.









Roedd y digwyddiad yn dathlu nid yn unig y ffaith bod y cwrs wedi’i gwblhau, ond hefyd yr ymrwymiad, yr ymroddiad a’r gwydnwch a ddangoswyd gan bob recriwt drwy gydol eu hyfforddiant.

Hoffai pawb yn GTACGC longyfarch y Diffoddwyr Tân Ar Alwad newydd, a dymuno pob llwyddiant wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd gweithredol.

Llongyfarchiadau a chroeso i’r Gwasanaeth!





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol