13.06.2026

Wythnos Atal Boddi 13-20 Mehefin 2026

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Wythnos Atal Boddi Royal Life Saving Society UK (RLSS UK)  i helpu plant a'u teuluoedd i fwynhau dŵr yn ddiogel cyn yr haf.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi Wythnos Atal Boddi Royal Life Saving Society UK (RLSS UK)  i helpu plant a'u teuluoedd i fwynhau dŵr yn ddiogel cyn yr haf.

Ers dros ddegawd, mae Wythnos Atal Boddi RLSS UK wedi anelu at roi gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr i addysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr plant cyn misoedd yr haf, pan fydd achosion o foddi yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Mae'r risg o foddi yn ddamweiniol yn cynyddu'n sylweddol yn ystod yr haf, pan fydd yr awydd i nofio mewn afonydd, llynnoedd, neu ddŵr agored yn fwy apelgar mewn cyfnodau o dywydd cynnes.

Mae gwybod sut i nofio yn sgil werthfawr - ond dydy hynny ddim yn ddigon i gadw'n ddiogel yn y dŵr. Mae gwir allu a hyder yn y dŵr ac o gwmpas dŵr yn gofyn hefyd am wybodaeth am y Cod Diogelwch Dŵr - Get to know the Water Safety Code with RLSS UK (Isdeitlau Cymraeg) | Videos & Movies ar Vimeo, gan gynnwys aros gyda'ch gilydd, stopio i feddwl ac asesu'r risgiau cyn mynd i mewn i'r dŵr, a gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.

Mae modd atal boddi. Yn ogystal â rhannu negeseuon diogelwch dŵr, mae RLSS UK yn ymgyrchu dros atal boddi systemig drwy gefnogi achubwyr bywyd a hyfforddi pobl sy'n sefyll o gwmpas, yn ogystal â paratoi polisïau diogelwch dŵr unedig gyda'r Llywodraeth.

Mae Wythnos Atal Boddi yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth ac annog y cyhoedd i fwynhau dŵr yn ddiogel.



Yn ôl Rob Tovey, Rheolwr Gorsaf a Rheolwr Diogelwch Dŵr:

"Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch RLSS UK ac rydym yn annog pawb i ddefnyddio a rhannu eu cynlluniau ar gyfer gwersi ac adnoddau a’u harweiniad yn ystod Wythnos Atal Boddi a thu hwnt. Rydyn ni eisiau i bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru ac ymwelwyr â'r rhanbarth i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer mwynhau'r arfordir, yr afonydd a'r llynnoedd gan wneud hynny’n gyfrifol gan osgoi trafferthion yn y dŵr."



Os bydd rhywun yn syrthio i'r dŵr neu'n mynd i drafferth wrth nofio, gall y reddf i neidio i mewn i helpu fod yn bwerus iawn, ond heb yr hyfforddiant neu'r offer cywir, gall hynny arwain at drasiedi. Arhoswch ar y tir a ffoniwch 999 gan gofio’r Cod Diogelwch Dŵr pob tro.  

  • Pwyllwch! Cymerwch funud i feddwl! 
  • Arhoswch Gyda'ch Gilydd 
  • Ffoniwch 999. 
  • Arnofiwch 

#WythnosAtalBoddi #DPW2026


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf