09.06.2026

Diwrnod Hyfforddi Diogelwch Tân Busnesau

Ddydd Mawrth 19 Mai, daeth tîm Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) at ei gilydd ar gyfer diwrnod oedd yn canolbwyntio ar hyfforddiant, datblygu a chydnabyddiaeth.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mawrth 19 Mai, daeth tîm Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) at ei gilydd ar gyfer diwrnod oedd yn canolbwyntio ar hyfforddiant, datblygu a chydnabyddiaeth.

Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau dysgu gyda nifer o randdeiliaid allweddol a chyflenwr lleol sy'n arbenigo mewn systemau rheoli mwg ar gyfer adeiladau preswyl. Roeddem yn falch o groesawu:

  • Tîm Arolygiaeth ar y Cyd - Rob Ellison, Prif Ymgynghorydd Iechyd Amgylcheddol
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Liz Wallwork, Uwch Reolwr, Arolygydd Gwasanaethau Oedolion
  • Rhentu Doeth Cymru - Bethan Jones, Rheolwr Gweithrediadau
  • Systemair - Michael Washbourne, Rheolwr Dylunio Manylebau

Rhoddodd y sesiwn gipolwg gwerthfawr ar sefydliadau partner yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw ym maes Diogelwch Tân, yn ogystal â dysgu technegol ar systemau rheoli mwg. Fe wnaeth hefyd gefnogi ein Swyddogion Arolygu Diogelwch Tân i gynnal eu gofynion DPP blynyddol a rhoi dealltwriaeth gliriach i staff cefnogol o waith yr adran.

Fe wnaethom hefyd ddathlu cyflawniadau tîm, gyda thystysgrifau wedi'u cyflwyno i:

  • Tom Wass - Xact Lefel 3 – Archwilio Adeiladau Syml
  • Neil Stephens - Xact Lefel 3 – Archwilio Adeiladau Syml a Chynllunio a Chaglu Tystiolaeth
  • Corissa Rees - Cwrs Arbenigol Xact – Memorandwm Technegol Iechyd Cymru (HTM)
  • Martyn Field - Diploma Lefel 4 Xact SFJ - Diogelwch Tân






Diolch i'r holl siaradwyr gwadd am eu hamser a'u cyfraniadau.

Ar y cyfan, cryfhaodd y diwrnod sgiliau adrannol ac amlygodd y datblygiad proffesiynol sy'n digwydd o fewn y tîm.



Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Adran Diogelwch Tân Busnes ac eisiau bod yn rhan o dîm sy'n cefnogi dysgu parhaus, cymwysterau proffesiynol a gwaith ystyrlon, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy ar fireprotection@mawwfire.gov.uk

Erthygl Flaenorol